Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
22 Tachwedd 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13047
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 6 a 9 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.23.
3 Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022
Dechreuodd yr eitem am 14.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8133 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
9 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
4 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon
Dechreuodd yr eitem am 14.47
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8132 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Protocol Gogledd Iwerddon i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Medi 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a
Chysylltiadau Rhyngwladol
Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig.
5 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch am 15.21 a gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 15.26
Crynodeb o Bleidleisiau
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb i Ddatganiad yr Hydref Llywodraeth y DU a’r Rhagolygon Economaidd a Chyllidol
Dechreuodd yr eitem am 15.28.
7 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod a Chyfiawnder Ieuenctid: Adroddiad cynnydd a'r camau nesaf
Dechreuodd yr eitem am 16.08.
8 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Hyfforddiant y Gwasanaeth Tân a’r capasiti i ehangu’r rôl
Dechreuodd yr eitem am 16.47.
9 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin
Dechreuodd yr eitem am 17.12.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.40
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2022